I ffwrdd a ni i Ysgol Easingwold, Ffordd Efrog, Easingwold yng Ngogledd Swydd Efrog, ble mae Bob Davies newydd gael ei ethol yn Arlwywr Ysgol Uwchradd Gorau’r Flwyddyn gan gylchgrawn EDUcatering. Yn ystod y gwasanaeth, bydd Tony Begley o Mary’s Meals yn son am yr elusen sy’n cynnig prydau ysgol yn rhad ac am ddim i filoedd o blant tlawd mewn gwledydd megis Malawi a Somalia. Gall myfyrwyr flasu’r uwd wedi’i atgyfnerthu a weinir gan Mary’s Meals. Gallwch lawrlwytho cwisiau Change4Life yma i weld faint o atebion cywir a gewch chi; mae cwisiau ar gyfer Cyfnodau Allweddol 1-4.
Y diben heddiw yw dangos pa mor ffodus yw pobl ifanc y wlad hon o gael cinio ysgol iach a blasus pob amser cinio. Mae’n llawer haws i blant gael dau neu dri o’u pum dogn y dydd o ffrwythau a llysiau yn yr ysgol bob amser cinio. Yr ydym yn cyferbynnu hyn â’r bobl ifanc hynny yn y gwledydd tlotach a fydd yn mynd i’r ysgol, ni yn unig i ddysgu, ond i gael rhywbeth i’w fwyta. Yn aml iawn, hwn fydd eu hunig bryd dyddiol. Os hoffech ragor o wybodaeth am Mary’s Meals, ewch i www.marysmeals.org.uk os gwelwch yn dda.
Mae rhai ysgolion yn gofyn i ddisgyblion a myfyrwyr roi ychydig geiniogau i’r elusen. Fe wnaiff 3c fwydo plentyn am un diwrnod, felly fe wnaiff unrhyw gyfraniad wneud gwahaniaeth go iawn.