Ar hyn o bryd rydych yn: Cartref > CYMRU 2009 > Dydd Mawrth – Coginiwch > Fideos Coginiwch > Debbie Mumford – Gwneud Peli Eog

Debbie Mumford – Gwneud Peli Eog

Leon – Felly dyma ni yn y gegin.  Rydw i yma gyda Debbie a phump cynorthwyydd gwych. Rydym ni’n mynd i wneud Peli Eog a Pherlysiau, salad a rosti tatws. Dewch i ni ddechrau.

Debbie – Iawn, rydw i wedi sychu’r arwyneb, mae’n neis ac yn lân. Rydym ni i gyd wedi golchi’n dwylo.

Leon – Dwylo i fyny, dyna ni.

Debbie – Iawn, dewch i ni ddechrau, mae gennym ni ychydig o eog rydw i wedi chwyrlïo.  Mae wedi malu’n fân.

Leon – Felly mae’r eog yn amrwd?

Debbie – Ydy mae’r eog yn amrwd.

Leon - Iawn.

Debbie – Mae gen i coriander a phersli deilen fflat rydw i wedi torri’n ddarnau.

Plentyn – Sut mae hynny’n gwneud iddo flasu?

Debbie – Mae’n rhoi blas neis. Ac yna mae gen i pupur a halen a chwmin i ychwanegu iddo hefyd, i ychwanegu at y blas. Yna rhaid ei gymysgu’n dda.

Leon – Cymysgwch e’n dda, dydy e ddim yn barod i fwyta eto fodd bynnag.

Debbie – Yna cymerwch darn bach a gwneud pêl. Wyt ti eisiau trio gwneud pêl eog? Cymera darn bach, dyna ti.

Plentyn – Darn fel hyn?

Debbie – Ie, darn fel yna, dyna ti, yna rholia e i fyny, y cwbl ac yna rholia fe fel yr un rydw i wedi gwneud, iawn.

Leon – Edrychwch ar hyn. Proffesiynol iawn. Wyt ti wedi gwneud hwn o’r blaen?

Plentyn - (ysgwyd ei ben)

Leon – Dyna ti.

Debbie – Dyna ti, rholia fe’n dda ac yna rho fe ar y tun ac fe fydd yn barod i bobi.  Da iawn ti.

Leon - Gwych.

Debbie – Wyt ti eisiau cael tro? Rydw i’n credu y dylen ni wneud un arall, dyna ti. Ydy e’n dda?

Plentyn – Mae’n slwtshlyd.

(Chwerthin)

Leon - Slwtshlyd, fel playdoh.

Debbie – Dyna ti.

Leon – Dyna ti, rholio gwych.

Debbie – Dyna’r un olaf, dyna ti, iawn, rholia fe.

Plentyn – Mae’n teimlo ychydig yn galed ac ychydig yn feddal o achos y...

Debbie – Y persli a’r coriander.

Plentyn - Persli. Mae braidd yn drwm.

Leon – Iawn, da iawn. Dyna’r peli wedi gwneud, rhaid iddynt fynd yn y ffwrn mewn eiliad, a beth sy’n dod nesaf?

Debbie – Rydw i’n mynd i frwsio’r tomatos gyda finegr balsamaidd a gallan nhw fynd yn y ffwrn i goginio hefyd.

Leon - Gwych.

Dydd Llun
Dewch i Fwyta
Dydd Mawrth
Dewch i Gefnogi
Dydd Mercher
Dewch i Ddawnsio
Dydd Iau
Dewch i Gofio
Dydd Gwener
Dewch i Chwerthin