Ar hyn o bryd rydych yn: Cartref > CYMRU 2009 > Dydd Mawrth – Coginiwch > Fideos Coginiwch > Debbie Mumford – Yn gwneud Dresin Salad

Debbie Mumford – Yn gwneud Dresin Salad

Leon – Felly mae’r tomatos yn y ffwrn a rydym ni ar fin symud ymlaen i’r dresin iogwrt, felly . .

Debbie – Ydyn wir, felly mae gen i iogwrt plaen, ciwcymbr, shibwns a phupur coch i roi mewn.

Plentyn - Yum, dwi’n caru shibwns, mae nhw’n flasus.

Plentyn – Mae ciwcymbr yn neis a suddog hefyd.

Leon – Felly dwi’n tybio bod ni’n cymysgu popeth gyda’i gilydd?

Debbie – Dyna ti ie, felly fe gymera i’r iogwrt, yna wyt ti eisiau rhoi’r shibwns mewn i mi ac fe wna i gymysgu, dyna ni, rho hwnna i mewn. Wyt ti eisiau gwneud y ciwcymbr? Fe wna i gymysgu, rho di’r ciwcymbr i mewn. Dyna ti, rho fe i gyd mewn.

Leon – Fe gadwa i rhain nôl o’r ffordd.

Plentyn – Mae yna pupur coch ar y cefn.

Leon – Oes, edrychwch.

Debbie – Defnyddia dy fysedd i’w grafu i mewn.

Leon – Dyna ni, dwylo glân.

Debbie – Dyna ni ac wyt ti eisiau gwneud y pupur coch? Wyt ti’n gallu estyn? Fe wna i gymysgu’n dda. Gwna’n siŵr bod y cwbl yn mynd mewn.

Plentyn – Mae’n edrych yn neis, mae’n edrych yn neis iawn.

Plentyn – Yr holl liwiau hynny gyda’i gilydd.

Leon - Diolch. Felly dyma’r cynhwysyn olaf arbennig.

Debbie – Croen lemon.

Plentyn – Mae’n arogli’n gryf iawn.

Plentyn – Ac yn lemonaidd.

Leon – Mae’n arogli’n lemonaidd iawn, mae hynny’n sicr.

Plentyn – Pam ydych chi’n gwneud e gyda’r croen?

Debbie – Dim ond haen uchaf y croen sy’n mynd i mewn, nid y croen cyfan.

Leon – Felly ydych chi’n gallu gweld y darnau melyn? Dyna beth sy’n mynd i mewn.

Plentyn – Mae’n arogli’n neis iawn.

Leon - Ydy.

Debbie – Dyna ni a nawr fe gymysgai hwn.

Leon – Ydy e’n edrych yn dda?

Plentyn – Ydy mae’n edrych yn dda iawn

Dydd Llun
Dewch i Fwyta
Dydd Mawrth
Dewch i Gefnogi
Dydd Mercher
Dewch i Ddawnsio
Dydd Iau
Dewch i Gofio
Dydd Gwener
Dewch i Chwerthin