Ar hyn o bryd rydych yn: Cartref > CYMRU 2009 > Dydd Mawrth – Coginiwch > Fideos Coginiwch > Sgil Coginio – Sut i Wneud Pei Tatws Stwnsh

Sgil Coginio – Sut i Wneud Pei Tatws Stwnsh

Sut i Wneud Pei Tatws Stwnsh (PDF)

Leon – Felly dyma ni wrth y bentan, rydym ni’n gwneud Pei Tatws Stwnsh heddiw a dyna gig eidion sydd gennyt ti, yn de?

Debbie – Dyna ni, ie.

Leon – Felly dwi’n dyfalu bod ni’n rhoi’r cig eidion i goginio cyn i ni wneud unrhyw beth arall.

Debbie – Dyna ni, ie, felly dwi’n mynd i ffrio hwnna.

Leon – Felly does dim byd arall yn y badell, a dwi’n tybio bod braster yn dod allan o’r cig eidion.

Debbie - Oes.

Leon – Am ba more hir ydych chi fel arfer yn ffrio’r briwgig?

Debbie – Tan fod e’n frown yr holl ffordd drwyddo ac yna byddwn ni’n ychwanegu’r llysiau, yr wnionyn a’r moron, i’r gymysgedd.

Leon – Felly, ydyn ni’n agos nawr?

Debbie – Ydyn, mae hwnna’n barod, gallwn ni ychwanegu’r wnionyn a’r moron.

Leon – Mae’n rhoi lliw neis.

Debbie - Ydy.

Leon – A digonedd o sudd i mewn yno i goginio’r moron a’r wnionyn.

Debbie - Oes.

Leon – Ffordd iachus o’i wneud, oherwydd dydyn ni heb ddefnyddio unrhyw olew o gwbl?

Debbie – Na dim olew o gwbl.

Leon – Da iawn, bron yn barod, felly beth sy’n dod nesaf?

Debbie – Nawr mae angen ciwb stoc ac ychydig o flawd corn jyst i dewhau a gwneud ychydig o grefi.

Leon – Cymysgu hwnna i mewn.

Debbie – Ychydig o ddŵr.

Leon – Iawn, felly rwyt ti’n gwneud hyn wrth edrych a theimlo’n unig?

Debbie - Ydw.

Leon – Am faint yn hirach oes angen ei gadw ar y gwres?

Debbie - Jyst tan iddo dewhau ychydig, mae bron wedi coginio nawr.

Leon – A wedyn beth sy’n digwydd?

Debbie – Rhaid i ni ddechrau berwi’r tatws.

Leon - Iawn.

Debbie – Felly dylen nhw fod yn barod i stwnsio yn y funud a wedyn byddant yn mynd ar ben y briwgig.

Leon – Iawn ac mae angen i ni symud y gymysgedd allan, oes?

Debbie – Oes, i mewn i ddysgl sy’n dal gwres.

Leon – Da iawn. Felly ydy’r gymysgedd wedi tewhau ddigon nawr?

Debbie – Do, mae hwnna’n barod i fynd mewn i’r dysgl sy’n dal gwres.

Leon – Mae’n edrych yn hyfryd, yn amlwg mae hwnna wedi coginio’n barod. Mae hwnna’n barod nawr, felly beth nesaf?

Debbie – Mae’n barod ar gyfer y ffwrn, felly dylen ni stwnsio’r tatws a bydd hwn yn mynd ar y top ac i mewn i’r ffwrn.

Leon – Beth am i ni ddechrau stwnsio.  Felly mae’r tatws yn neis ac yn feddal.

Debbie – Ydyn a rydw i wedi’u hidlo i gael gwared o’r dŵr.

Leon – Ac wyt ti’n mynd i ddechrau stwnsio’n syth?

Debbie – Ydw ond gyntaf rydw i’n ychwanegu ychydig o laeth, ychydig o fargarîn, a dechrau stwnsio.

Leon – Dyna chi.

Leon – Iawn, rydw i’n mynd i drio hwn, wyt ti wedi gorffen stwnsio, do, rydw i’n mynd i wirio am lympiau, eithaf da, barod i fynd, iawn, beth am i ni roi nhw at ei gilydd, mae hwnna’n flasus.

Debbie – Felly fe rhoddai hwn dros y cyfan.

Leon – Yn neis a llyfn.

Debbie – Ie, fel bod y cyfan wedi gorchuddio.

Leon – Rydw i’n llwgu jyst wrth edrych arno fe.

Debbie – Bydd hwn yn mynd yn y ffwrn nawr i frownio a chrasu ar y top.

Leon – Felly am ba mor hir byddet ti’n ei adael yn y ffwrn i frownio?

Debbie – Mwy na thebyg am tua 20 munud.

Leon – Edrych yn dda.

Debbie - Ydy.

Leon – Ond dwi’n credu bod dim ond un ffordd i’w feirniadu fodd bynnag, dwi’n barod!

Debbie – Iawn, dyma ni.

Leon - Ffantastig, mmm

Dydd Llun
Dewch i Fwyta
Dydd Mawrth
Dewch i Gefnogi
Dydd Mercher
Dewch i Ddawnsio
Dydd Iau
Dewch i Gofio
Dydd Gwener
Dewch i Chwerthin