Leon – Iawn, felly beth sydd nesaf?
Debbie – Rydw i’n mynd i frwsio’r tomatos gyda finegr Balsamaidd, felly bant a ti. Dyna ti, trocha hwnna yn fan yna.
Leon – Mae’n edrych fel brwsh paent?
Debbie – Brwsh paent yw e.
Leon – Gobeithio bod neb wedi’i ddefnyddio’n gynharach i wneud y waliau!
Debbie – Dyna ti, gwna’n siŵr bod ti’n brwsio dros bob rhan
Plentyn – Pam ydych chi’n rhoi finegr arnyn nhw?
Debbie – Mae’n rhoi blas da iddyn nhw.
Plentyn – Pam mae e’n arogli mor gryf?
Debbie – Mae finegr Balsamaidd yn finegr cryf iawn.
Plentyn - ...................yfed finegr ar ei ben ei hun?
Debbie – Dydy finegr ddim yn neis i yfed ar ei ben ei hun, felly mae e jyst i rhoi blas i’r tomatos.
Leon – Ie, byddai braidd yn rhy gryf i yfed ar ei ben ei hun