Leon – Felly, pwy yma sy’n hoffi pethau melys? Rydw i’n sicr yn hoff ohonynt! Wel dyma fy hoff ran, amser pwdin! Dyma’r cynhwysion, beth sydd gyda ni?
Debbie – Reit, mae gyda ni blawd plaen, siwgr brown, wyau, sinamon a sbeis cymysg.
Leon - Neis, rydw i’n hoff o sinamon, oes unrhyw un arall yn hoffi sinamon?
Plant – Ydw, rydw i’n hoffi oren, ai cwstard yw hwnna, mae’n edrych fel cwstard.
Debbie - Olew llysiau a sitrach cnau melyn wedi coginio a stwnsio.
Plant – Beth mae’n edrych fel pan mae gyda’i gilydd?
Leon – Beth yn gyfan neu wedi cymysgu gyda’i gilydd?
Plant – Na, cyn iddo gael ei gratio fel hyn.
Leon – Felly, dyma sitrach cnau melyn, wel hanner un ac mae’r hanner arall yn y gymysgedd, ewch i edrych ac arogli.
Plant – Mae’n oer iawn.
Leon – Ydy, mae newydd ddod o’r oergell.
Plant – Mae’n arogli’n gryf iawn ac mae’n arogli fel oren.
Leon – Mae’n edrych ychydig fel oren yn dydy hi. Mae’n ddiddorol rhoi llysieuyn mewn pwdin yn dydy hi?
Plant - Ydy.
Leon – Rydw i’n edrych ymlaen at ei flasu.
Plant – A nawr rydym ni’n rhoi’r cwbl yn y fowlen?
Debbie – Dyna ni, rydym ni’n mynd i ddechrau gwneud y myffins, felly’r blawd, y siwgr brown a’r wyau.
Plant – Maen nhw’n edrych fel pâr o lygaid
Leon – Ydy maen nhw’n edrych fel pâr o lygaid.
Plant – Pam oes rhaid rhoi wy yn y gymysgedd?
Debbie – Mae wy’n helpu iddo godi a’i wneud yn ysgafn ac yn flewog. Sinamon a sbeis cymysg, olew llysiau a sitrach cnau melyn. Y cynhwysyn hudol, dyna hi.
Leon – Felly ydych chi’n cymysgu â llaw neu ydych chi’n defnyddio peiriant cymysgu?
Debbie – Rydych chi’n gallu gwneud unrhyw un, naill ai â llaw neu gyda pheiriant.
Leon – Mae’n dda i’r cyhyrau os ydych chi’n cymysgu â llaw.
Debbie – Dyna chi, rydw i’n mynd i basio hwn ymlaen er mwyn i bawb cael tro, cymysgwch yn dda.
Leon – Mae’n arogli’n hyfryd, dydych chi ddim yn gallu ei fwyta eto ydych chi?
Debbie – Na dim eto.
Plant – Na oherwydd bod e’n cynnwys wy.
Leon – Mae hynny’n gywir.
Plant – Ond rydych chi’n gallu bwyta wy ar ei ben ei hun.
Leon – Ond dydych chi ddim i fod i, rydych chi’n bendant i fod i goginio wyau.
Debbie – Reit, wyt ti eisiau pasio’r fowlen ymlaen er mwyn i bawb cael tro, cymysga fe’n dda.
Plant – Mae’n edrych yn go dew
Debbie – Dyna sut mae hi i fod i edrych.
Leon – Mae’n edrych yn liw da yn dydy?
Plant – Mae’n edrych yn hyfryd.
Leon – Mae’n arogli’n neis yn dydy hi? Rydw i’n gallu arogli’r sinamon.
Plant – Y sinamon – mae’n eithaf cryf.
Leon – Wyt ti wedi gwneud hwnna o’r blaen, y cymysgu?
Plant - Do.
Leon – Iawn, felly mae hwnna wedi cymysgu’n barod ac mae gennyt ti’r tun myffins, felly beth nawr?
Debbie – Nawr rydym ni’n mynd i roi ychydig o’r gymysgedd i mewn i bob rhan, rydw i’n mynd i basio hwn ymlaen, felly os byddech chi’n gallu gorffen hwn i mi, iawn.
Leon – Dydw i ddim yn gwybod am unrhyw un arall ond mae hwn yn gwneud i fy stumog rymblan, dydw i ddim yn gallu aros i drio un pan fyddant wedi coginio.
Leon – Unrhyw un arall?
Plant - Ie.
Leon – Felly mae pob rhan yn llawn, yn barod ar gyfer y ffwrn.
Debbie – Ydy, mae’n barod i goginio.
Leon – Iawn, felly bant a ni
Debbie – Iawn