Ydych chi eisiau trio rhywbeth gwahanol heddiw? Mae ymarfer corff yn gwneud i bawb deimlo’n ffantastig felly beth am fywiogi’ch dydd Mercher trwy gadw’n heini. Ymunwch â Colin Jackson ar-lein a bydd e’n dangos amrywiaeth o ymarferion hwylus gallwch chi wneud adref neu yn yr ysgol. Does dim angen unrhyw offer arbenigol, dim ond amser, lle a llawer o egni.
Gallwch greu pwysau gan ddefnyddio tuniau o ffrwythau neu ffa pob. Mae mor hawdd a hynny! Sicrhewch eich bod yn dilyn cyngor diogelwch Colin ac os ydych chi’n teimlo unrhyw boen, stopiwch ar unwaith.
Darganfyddwch fwy am Colin Jackson a pham dylech chi gymryd rhan yn y Diwrnod Cadw’n Heini
Dewch i adnabod Colin Jackson ychydig yn well wrth iddo siarad am ei yrfa chwaraeon
Gwyliwch Colin yn dangos sut i wneud yr ymarfer hwn i weithio cyhyrau’ch stumog