Colin -
Fe ddechreuais gydag athletau pan roeddwn yn 4 mlwydd oed oherwydd roedd fy chwaer yn rhedeg ac yn cystadlu. Roeddwn i arfer gwylio hi’n rhedeg ac yn cystadlu a meddyliais y byddwn yn hoffi cael tro yn gwneud hynny.
Fy nghyrhaeddiad gorau – i mi rhaid taw hyn oedd ennill teitl Pencampwr Iau y Byd yn 19, dyma oedd fy nheitl byd-eang cyntaf felly dyna pam mae’n arbennig i mi.
Mae fy arwr chwaraeon yn mynd nôl amser maith, mae’n ddyn o’r enw Daley Thompson. Roedd yn decathlet, decathlet gwych o Brydain a enillydd nifer o fedalau. Medalau aur Olympaidd, medalau aur Pencampwriaethau’r Byd, medalau aur Ewropeaidd, medalau aur y Gymanwlad, ac hefyd roedd ganddo record y byd. Felly, oherwydd iddo gyflawni popeth yn y byd chwaraeon roeddwn i eisiau cyflawni, a roedd e’n Brydeiniwr, fe oedd fy arwr.
Rydw i’n credu taw’r moment gorau rydw i wedi sylwebu ar oedd yn y Gemau Olympaidd ym Meijing pan enillodd Usain Bolt y 100 metr a gosod record byd anhygoel. Roedd yn gyrhaeddiad rhyfeddol a roedd gennyf iasau lawr fy nghefn.
Yn berson ifanc, roeddwn yn dawel iawn, doeddwn i ddim yn dweud llawer o gwbl. Roeddwn yn hoff iawn o chwaraeon, ond ie, roeddwn i’n berson ifanc tawel iawn a dweud y gwir.
Mae gosod targedau ac amcanion i chi’ch hun yn bwysig iawn, ond mae rhaid i chi godi yn y bore. Mae rhaid i chi gael rheswm i godi yn y bore, felly mae gosod y targedau ac amcanion cywir i chi’ch hun yn angenrheidiol.
Wel, dydw i ddim yn rhy siŵr os dylwn i fod yn dweud hyn wrthych chi, ond fy hoff bryd ysgol oedd Pastai Bugail, a fy hoff bwdin oedd Tarten Afal gyda llawer o gwstard.
Fel person ifanc, rydw i bob tro’n dweud bod angen cael hwyl, dyma adeg pwysicaf dy fywyd. Rhaid i chi sugno pob darn o wybodaeth o dy amgylch. Felly mwynhewch, cofleidiwch beth rydych chi’n gweld, oherwydd dydych chi ddim yn berson ifanc yn hir iawn.
Rydw i’n credu bod ymarfer corff a bwyta’n dda, maen nhw’n mynd law yn llaw, ac mae’n hanfodol yn enwedig os ydych chi’n gallu treulio ychydig fwy o amser yn astudio, oherwydd mae corff iachus yn creu cof iachus. Dyma gyfnod pwysicaf dy fywyd, i unrhyw un a dweud y gwir, ac mae’n rhoi sylfaen da i chi. Gyda maeth da, maeth cytbwys, ac ymarfer corff fe allwch chi fynd yn bell.