Offer - Dymbel neu tun o ffrwythau/ffa pob
Rhan o'r Corff: Ysgwyddau, cefn a phen ôl
Grŵp Cyhyrau: Deltaidd Ôl, Cyhyrau Sythu, Cyhyrau Ffolen
• Dechreuwch yn y safle bocs ar gyfer gwneud ymwthiadau (gwelwch y disgrifiad o ymwthiadau)
• Tynnwch eich botwm bol tuag at eich asgwrn cefn heb ddal eich anadl
• Ar yr un pryd estynnwch un braich a'r goes ar yr ochr arall, tan bod un penelin yn lefel gyda'ch clust a bod eich pen-glin yn lefel gyda, neu ychydig o dan, lefel eich clun (yn dibynnu ar gysur)
• Anadlwch allan wrth i chi ymestyn, anadlwch i mewn wrth i chi ddychwelyd eich coes a'ch braich i'r safle cychwyn
• Ailadroddwch gyda'r braich a choes arall
Gellir cwblhau'r ymarfer hwn gyda tun ffa pob neu dymbel bach i ychwanegu gwrthiant a gwneud yr ymarfer yn anoddach.