Offer - Dymbel neu tun o ffa pob/ffrwythau
Rhan o'r Corff: Ysgwyddau, cefn, pen ôl a garrau
Grŵp Cyhyrau: Deltaidd, Cyhyrau Pedryben, Cyhyrau Ffolen,
Cyhyrau Sythu
Fe allwch chi wneud yr ymarfer hwn gyda neu heb bwysau.
• Safwch gyda'ch traed ychydig yn lletach na lled eich ysgwyddau ar wahân
• Cymerwch un braich dros eich corff i'r canol, a rhowch y fraich arall yng nghanol eich cefn gyda'r cledr yn wynebu tuag allan
• Cadwch eich pen mewn safle niwtral ac eich ysgwyddau nôl am osgo da
• Cadw'ch eich botwm bol wedi tynnu i mewn ac eisteddwch mewn cadair ddychmygol - sicrhewch bod eich ysgwyddau yn aros tu ôl i'ch pengliniau a bod eich pengliniau mewn llinell gyda'r ail a thrydydd bys traed, tu ôl i linell y bysedd traed - anadlwch i mewn
• Gadewch i'ch braich hongian yn rhydd
• Cadwch eich pen a'ch bron wedi codi ac edrychwch allan i'r gorwel
• Dychwelwch i'r safle sefyll (wrth anadlu allan) a chodwch eich braich yn syth allan ac yna uwch eich pen - sicrhewch bod eich cyhyr deuben o flaen y clust