Ar hyn o bryd rydych yn: Cartref > CYMRU 2009 > Dydd Mercher – Cadw’n Heini > Fideos Cadw’n Heini > Neidiau Cyrcydu

Neidiau Cyrcydu

Rhan o'r Corff: Top y garrau, pen ôl a rhan isaf y cefn
Grŵp Cyhyrau: Cyhyrau Pedryben, Cyhyrau Ffolen, Cyhyrau Sythu

• Safwch gyda'ch traed lled a hanner eich ysgwyddau ar wahân
• Dylech sefyll yn dal gyda'ch ysgwyddau nôl
• Cadwch eich botwm bol wedi tynnu i mewn a chadwch eich pen mewn safle niwtral
• Anadlwch i mewn wrth i chi ddechrau plygu'r pengliniau ac eistedd nôl (dychmygwch eistedd nôl ar gadair)
• Wrth i chi eistedd nôl sicrhewch bod eich pengliniau'n aros dros yr ail a thrydydd bys troes, a bod eich pengliniau'n aros tu ôl i linell y bysedd traed
• Dylech drosglwyddo'ch pwysau i'ch sodlau
• Cadwch eich asgwrn cefn yn syth a phwyswch ymlaen ychydig o'ch canol, gan sicrhau bod eich ysgwyddau'n aros tu ôl i'ch pengliniau
• Sicrhewch bod eich pen a'ch bron wedi codi ac edrychwch allan i'r gorwel
• Anadlwch allan wrth i chi neidio i fyny
• Wrth i chi neidio gadewch i'ch coesau hongian yn syth yn naturiol
• Glaniwch ar fysedd eich traed a gostyngwch lawr i'ch sodlau, sicrhewch bod eich traed yn dal i fod lled a hanner eich ysgwyddau ar wahân
• Gostyngwch i lawr i safle cwrcwd wrth i chi anadlu i mewn, sicrhewch bod eich pengliniau ar 90 gradd cyn neidio eto ac anadlu allan

Dydd Llun
Dewch i Fwyta
Dydd Mawrth
Dewch i Gefnogi
Dydd Mercher
Dewch i Ddawnsio
Dydd Iau
Dewch i Gofio
Dydd Gwener
Dewch i Chwerthin