Rhan o'r Corff: Top y garrau, pen ôl a rhan isaf y cefn
Grŵp Cyhyrau: Cyhyrau Pedryben, Cyhyrau Ffolen, Cyhyrau Sythu
Safwch gyda'ch traed lled a hanner eich ysgwyddau ar wahân
• Dylech sefyll yn dal gyda'ch ysgwyddau nôl
• Cadwch eich botwm bol wedi tynnu i mewn a'ch pen mewn safle niwtral
• Anadlwch i mewn wrth i chi ddechrau plygu'ch pengliniau ac eistedd nôl (dychmygwch eistedd nôl ar gadair)
• Wrth i chi eistedd nôl sicrhewch bod eich pengliniau yn aros dros yr ail a thrydydd bys troed, a bod eich pengliniau yn aros tu ôl i linell y bysedd traed
• Dylech drosglwyddo'ch pwysau i'ch sodlau
• Cadwch eich asgwrn cefn yn syth a phwyswch ymlaen o'ch canol, sicrhewch bod eich ysgwyddau'n aros tu ôl i'ch pengliniau
• Sicrhewch bod eich pen a'ch bron wedi codi ac edrychwch allan i'r gorwel
• Anadlwch allan wrth i chi ddychwelyd i'r safle cychwyn