Mae'n hawdd cymryd rhan yn Wythnos Genedlaethol Prydau Ysgol p'un a ydych gartref neu yn yr ysgol. Gallwch ymuno â'r gweithgareddau llawn hwyl a grewyd i blant, myfyrwyr ac ysgolion i ddathlu'r prydau ysgol iach a blasus sy'n cael eu gweini yn eich ardal chi.
Mae bwyta'n iach ar frig yr agenda wrth i Wythnos Genedlaethol Prydau Ysgol ddechrau. Dyma un o'r ymgyrchoedd bwyta'n iach mwyaf yn y DU. Mae'n amlygu'r rôl gall pryd ysgol ei chwarae yn ystod diwrnod ysgol ac mae'n annog pawb i gymryd rhan yn y gweithgareddau gwahanol. Mae bron i 100 o awdurdodau yn cymryd rhan, ynghyd â thros 300 o ysgolion, sy'n golygu mai dyma'r Wythnos Genedlaethol Prydau Ysgol fwyaf erioed.
Mae Wythnos Genedlaethol Prydau Ysgol wedi bod yn cael ei chynnal ers 1993 ac mae'n cael ei threfnu gan Gymdeithas Arlwywyr Awdurdodau Lleol (LACA). Mae'r wythnos yn annog disgylion Ysgolion Cynradd a myfyrwyr Ysgolion Uwchradd i gael pryd ysgol iachus sy'n bodloni safonau maeth y Llywodraeth.
Y negeseuon allweddol eraill yw: