Ar ôl misoedd o gynllunio, mae Wythnos Genedlaethol Prydau Ysgol yma! Mae gennym ni wythnos lawn o weithgareddau i chi, gan ddechrau gyda Chinio Ysgol Mwyaf Prydain heddiw. Mae'r wythnos yn cael ei lansio'n swyddogol yn Llundain gan Beverley Baker yn ysgol Hall Mead School yn Upminster.
Heddiw, mae miloedd o ysgolion ar draws y wlad yn gwahodd gwesteion i fwynhau pryd ysgol wrth i ni geisio creu Cinio Ysgol Mwyaf Prydain. Gallai hyn gynnwys rhieni, mamgu a dadcu, enwogion y byd chwaraeon neu aelodau'r gymuned leol.
Pwy sy'n dod i gael cinio yn eich ysgol chi? Rhowch wybod i ni drwy gwblhau'r Cyfrif rhannu eich cynlluniau neu drwy anfon neges ebost at nsmw@avfmarketing.co.uk. Yna gallwn ychwanegu manylion eich digwyddiad i'r wefan. Gallwch anfon lluniau o'ch cinio ysgol dros yr ebost hefyd.
Gobeithio y cewch chi wythnos wych!