Rydych yn: Cartref > NSMW 2010 > Dydd Lau
Dewch i Gofio
 - Dydd Iau 11eg Tachwedd
Thursday 11th November 2010

Heddiw bydd miliynau o bobl ar draws y wlad yn cofio am y rhai sydd wedi ymladd mewn rhyfeloedd yn y gorffennol a'r presennol. Byddwn yn annog pawb i wneud yr un peth ac rydyn ni wedi creu amrywiaeth o adnoddau i addysgu pobl ifanc am sut beth oedd bod yn yr ysgol yn y 1940au pan ddechreuwyd gweini bwyd ysgol i bawb.

Rydyn ni wedi siarad gyda phobl oedd yn yr ysgol yn ystod y rhyfed a gall y disgyblion wylio'r fideos hynny ar-lein. Mae ryseitiau hefyd o'r 1940au felly gallech weini'r bwydydd hynny amser cinio, fel rhan o wers neu gallech eu rhoi i'r disgyblion er mwyn iddynt goginio gartref gyda'u teuluoedd.

Cofiwch gael dwy funud o dawelwch am 11am a cheisiwch annog eich ysgol neu'ch gweithle i wneud yr un peth.

Thursday Recipes
Ryseitiau dydd Iau

Lawrlwythwch y ryseitiau sy'n cynnwys prif gyrsiau a bwydydd melys y byddai pobl yn eu bwyta yn y 1940au pan gyflwynwyd bwyd ysgol i bawb am y tro cyntaf erioed.

Memories from World War 2

Atgofion o'r Ail Ryfel Byd

Gwrandewch ar bobl oedd yn byw yn ystod yr Ail Ryfel Byd a gwrandewch ar yr hyn roedd ganddynt i'w ddweud am y bwyd a gawsant yn yr ysgol.