Y syniad y tu ôl i heddiw yw i'r diwydiant Gwestai ac Arlwyo gefnogi prydau ysgol, diolch i gylchgrawn Caterer & Hotelkeeper. Bydd cogyddion, staff bar a rheolwyr bwytai yn cael eu hannog i fynd i mewn i ysgolion i wneud arddangosiadau coginio i blant neu newid swyddi gydag arlwywyr ysgol.
Gwnaeth criw ffilmio NSMW ymweld â gwesty pum seren Chweston Glen Hotel yn y New Forest ac maent wedi creu tri arddangosiad gyda'r Rheolwr Bwyty Cynorthwyol, Alistair Phillips. Os nad ydych wedi creu cyswllt gyda gwesty neu fwyty lleol, gallwch ddangos y fideos hyn yn eich ysgol chi. Maent yn dangos mor hawdd yw gwneud smwythyn ffrwythau a sut i osod y bwrdd bwyta'n gywir. Gall athrawon lawrlwytho cyflwyniad am y diwydiant Gwestai ac Arlwyo i'w ddefnyddio fel rhan o'r diwrnod.
Paratowch fwrdd bwyta mewn gwesty
Gwyliwch Alastair Phillips yn gosod bwrdd ar gyfer gwesty ac edrychwch i weld sy'n mae'n wahanol i fwdd bwyd mewn ysgol.
Gwyliwch Alastair Phillips, Rheolwr Bwyty Cynorthwyol yng ngwesty pum seren Chewton Glen Hotel yn gwneud smwythyn ffrwythau. Mae hyn yn ffordd wych o gael eich pump y dydd.
Paratoi'r bwrdd ar gyfer ysgol
Gwyliwch Alastair Phillips yn gosod bwrdd ar gyfer cinio ysgol gyda'r cyllyll a'r ffyrc cywir ar gyfer bob cwrs.